Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O ARGLWYDD, Dduw dial,Dduw dial, ymddangos.

2. Cyfod, O farnwr y ddaear,rho eu haeddiant i'r balch.

3. Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD,y bydd y drygionus yn gorfoleddu?

4. Y maent yn tywallt eu parabl trahaus;y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalchïo.

5. Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,ac yn poenydio dy etifeddiaeth.

6. Lladdant y weddw a'r estron,a llofruddio'r amddifad,

7. a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94