1. O ARGLWYDD, Dduw dial,Dduw dial, ymddangos.
2. Cyfod, O farnwr y ddaear,rho eu haeddiant i'r balch.
3. Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD,y bydd y drygionus yn gorfoleddu?
4. Y maent yn tywallt eu parabl trahaus;y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalchïo.
5. Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,ac yn poenydio dy etifeddiaeth.
6. Lladdant y weddw a'r estron,a llofruddio'r amddifad,
7. a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”
8. Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl!Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?
9. Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed,a'r un a luniodd lygad yn gweld?
10. Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd,a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?
11. Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl,mai gwynt ydynt.
12. Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,ac a ddysgi allan o'th gyfraith,
13. i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd,nes agor pwll i'r drygionus.