Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 92:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD,a dwfn iawn dy feddyliau!

6. Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod,a ffŵl yw'r un sydd heb ddeall hyn:

7. er i'r annuwiol dyfu fel glaswelltac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,eu bod i'w dinistrio am byth,

8. ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.

9. Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,wele, dy elynion a ddifethir,a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.

10. Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych,ac eneiniaist fi ag olew croyw.

11. Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion,a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.

12. Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.

13. Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD,ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.

14. Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint,a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 92