1. Da yw moliannu'r ARGLWYDD,a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf,
2. a chyhoeddi dy gariad yn y borea'th ffyddlondeb bob nos,
3. gyda'r dectant a'r nabla chyda chordiau'r delyn.
4. Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu â'th waith;yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo.
5. Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD,a dwfn iawn dy feddyliau!
6. Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod,a ffŵl yw'r un sydd heb ddeall hyn:
7. er i'r annuwiol dyfu fel glaswelltac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,eu bod i'w dinistrio am byth,
8. ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.
9. Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,wele, dy elynion a ddifethir,a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.