8. Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10. Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11. Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12. Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,inni gael calon ddoeth.
13. Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd?Trugarha wrth dy weision.
14. Digona ni yn y bore â'th gariad,inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15. Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni,gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16. Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision,a'th ogoniant i'w plant.