9. Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10. fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11. Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12. Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
13. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau;edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu,
14. imi gael adrodd dy holl fawla llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
15. Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain,daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
16. Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn;maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun.Higgaion. Sela
17. Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol,a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
18. Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth,ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
19. Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion,ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.