6. Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,a diflannodd y cof amdanynt.
7. Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
8. Fe farna'r byd mewn cyfiawnder,a gwrando achos y bobloedd yn deg.
9. Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10. fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11. Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12. Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.