Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,adroddaf am dy ryfeddodau.

2. Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.

3. Pan dry fy ngelynion yn eu holau,baglant a threngi o'th flaen.

4. Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.

5. Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus,a dileaist eu henw am byth.

6. Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,a diflannodd y cof amdanynt.

7. Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,ac wedi paratoi ei orsedd i farn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 9