1. Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,adroddaf am dy ryfeddodau.
2. Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
3. Pan dry fy ngelynion yn eu holau,baglant a threngi o'th flaen.
4. Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.