Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 88:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,a llethaist fi â'th holl donnau.Sela

8. Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;

9. y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.

10. A wnei di ryfeddodau i'r meirw?A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?Sela

11. A fynegir dy gariad yn y bedd,a'th wirionedd yn nhir Abadon?

12. A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 88