7. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.
10. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.
11. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12. Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13. Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
14. O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.
15. Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.