Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 86:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;gwared dy was sy'n ymddiried ynot.

3. Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.

4. Llawenha enaid dy was,oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5. Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.

6. Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,a gwrando ar fy ymbil.

7. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.

8. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.

9. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.

10. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.

11. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.

12. Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.

13. Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.

14. O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.

15. Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog,rho dy nerth i'th was,a gwared un o hil dy weision.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 86