Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 86:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.

15. Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog,rho dy nerth i'th was,a gwared un o hil dy weision.

17. Rho imi arwydd o'th ddaioni,a bydded i'r rhai sy'n fy nghasáu weld a chywilyddio,am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 86