Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 86:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi,oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.

2. Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;gwared dy was sy'n ymddiried ynot.

3. Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.

4. Llawenha enaid dy was,oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5. Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.

6. Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,a gwrando ar fy ymbil.

7. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.

8. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.

9. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.

10. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.

11. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.

12. Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.

13. Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.

14. O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.

15. Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog,rho dy nerth i'th was,a gwared un o hil dy weision.

17. Rho imi arwydd o'th ddaioni,a bydded i'r rhai sy'n fy nghasáu weld a chywilyddio,am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 86