Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 86:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi,oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.

2. Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;gwared dy was sy'n ymddiried ynot.

3. Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.

4. Llawenha enaid dy was,oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5. Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.

6. Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,a gwrando ar fy ymbil.

7. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.

8. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.

9. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.

10. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.

11. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 86