Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 83:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gebal, Ammon ac Amalec,Philistia a thrigolion Tyrus;

8. Asyria hefyd a unodd gyda hwy,a chynnal breichiau tylwyth Lot.Sela

9. Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera,ac i Jabin wrth nant Cison,

10. ac i Midian, a ddinistriwyd wrth ffynnon Haroda mynd yn dom ar y ddaear.

11. Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeba'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna,

12. y rhai a ddywedodd, “Meddiannwn i ni ein hunainholl borfeydd Duw.”

13. O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog,fel us o flaen gwynt.

14. Fel tân yn difa coedwig,fel fflamau'n llosgi mynydd,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 83