Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 83:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeba'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna,

12. y rhai a ddywedodd, “Meddiannwn i ni ein hunainholl borfeydd Duw.”

13. O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog,fel us o flaen gwynt.

14. Fel tân yn difa coedwig,fel fflamau'n llosgi mynydd,

15. felly yr ymlidi hwy â'th storm,a'u brawychu â'th gorwynt.

16. Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd,er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD.

17. Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth,ac mewn gwaradwydd difether hwy.

18. Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a'th enw'n ARGLWYDD,yw'r Goruchaf dros yr holl ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 83