Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 83:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw, paid â bod yn ddistaw;paid â thewi nac ymdawelu, O Dduw.

2. Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.

3. Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,

4. a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,fel na chofir enw Israel mwyach.”

5. Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,a gwneud cynghrair i'th erbyn—

6. pebyll Edom a'r Ismaeliaid,Moab a'r Hagariaid,

7. Gebal, Ammon ac Amalec,Philistia a thrigolion Tyrus;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 83