1. O Dduw, paid â bod yn ddistaw;paid â thewi nac ymdawelu, O Dduw.
2. Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
3. Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
4. a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,fel na chofir enw Israel mwyach.”
5. Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,a gwneud cynghrair i'th erbyn—
6. pebyll Edom a'r Ismaeliaid,Moab a'r Hagariaid,