Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 79:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth,a halogi dy deml sanctaidd,a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.

2. Rhoesant gyrff dy weisionyn fwyd i adar yr awyr,a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.

3. Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵro amgylch Jerwsalem,ac nid oes neb i'w claddu.

4. Aethom yn watwar i'n cymdogion,yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.

5. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?

6. Tywallt dy lid ar y cenhedloeddnad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teyrnasoeddnad ydynt yn galw ar dy enw,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 79