Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:62-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. rhoes ei bobl i'r cleddyf,a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.

63. Ysodd tân eu gwŷr ifainc,ac nid oedd gân briodas i'w morynion;

64. syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,ac ni allai eu gweddwon alaru.

65. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.

66. Trawodd ei elynion yn eu holau,a dwyn arnynt warth tragwyddol.

67. Gwrthododd babell Joseff,ac ni ddewisodd lwyth Effraim;

68. ond dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion y mae'n ei garu.

69. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.

70. Dewisodd Ddafydd yn was iddo,a'i gymryd o'r corlannau defaid;

71. o fod yn gofalu am y mamogiaiddaeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob,ac Israel ei etifeddiaeth.

72. Bugeiliodd hwy â chalon gywir,a'u harwain â llaw ddeheuig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78