54. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.
55. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.
56. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.
57. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.
58. Digiasant ef â'u huchelfeydd,a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.
59. Pan glywodd Duw, fe ddigiodd,a gwrthod Israel yn llwyr;
60. gadawodd ei drigfan yn Seilo,y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl;
61. gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud,a'i ogoniant i ddwylo gelynion;
62. rhoes ei bobl i'r cleddyf,a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.
63. Ysodd tân eu gwŷr ifainc,ac nid oedd gân briodas i'w morynion;
64. syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,ac ni allai eu gweddwon alaru.
65. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.