Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.

2. Agoraf fy ngenau mewn dihareb,a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,

3. pethau a glywsom ac a wyddom,ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.

4. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dodweithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.

5. Fe roes ddyletswydd ar Jacob,a gosod cyfraith yn Israel,a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,i'w dysgu i'w plant;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78