Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela

16. “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.

17. Tywalltodd y cymylau ddŵr,ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;fflachiodd dy saethau ar bob llaw.

18. Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,goleuodd dy fellt y byd;ysgydwodd y ddaear a chrynu.

19. Aeth dy ffordd drwy'r môr,a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;ond ni welwyd ôl dy gamau.

20. Arweiniaist dy bobl fel praidd,trwy law Moses ac Aaron.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77