Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 76:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda,a'i enw'n fawr yn Israel;

2. y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,a'i gartref yn Seion.

3. Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.Sela

4. Ofnadwy wyt ti, a chryfachna'r mynyddoedd tragwyddol.

5. Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,y maent wedi suddo i gwsg,a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.

6. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob,syfrdanwyd y marchog a'r march.

7. Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaenpan fyddi'n ddig?

8. Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd;ofnodd y ddaear a distewi

9. pan gododd Duw i farnu,ac i waredu holl drueiniaid y ddaear.Sela

10. Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu,a gweddill Hamath yn cadw gŵyl i ti.

11. Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu;bydded i bawb o'i amgylch ddod â rhoddion i'r un ofnadwy.

12. Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion,ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 76