Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 75:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti;y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau.

2. Manteisiaf ar yr amser penodedig,ac yna barnaf yn gywir.

3. Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion,myfi sy'n cynnal ei cholofnau.Sela

4. Dywedaf wrth yr ymffrostgar, “Peidiwch ag ymffrostio”,ac wrth y drygionus, “Peidiwch â chodi'ch corn;

5. peidiwch â chodi'ch corn yn uchelna siarad yn haerllug wrth eich Craig.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 75