Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 73:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn,a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.

2. Yr oedd fy nhraed bron â baglu,a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,

3. am fy mod yn cenfigennu wrth y trahausac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.

4. Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.

5. Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.

6. Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,a thrais yn wisg amdanynt.

7. Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 73