Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 72:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.

7. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.

8. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

9. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10. Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoeddddod ag anrhegion iddo,ac i frenhinoedd Sheba a Sebagyflwyno eu teyrnged.

11. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.

12. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.

13. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,ac yn gwaredu bywyd y tlodion.

14. Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.

15. Hir oes fo iddo,a rhodder iddo aur o Sheba;aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,a chaffed ei fendithio bob amser.

16. Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd;a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon,a'i rawn fel gwellt y maes.

17. Bydded ei enw'n aros hyd byth,ac yn para cyhyd â'r haul;a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddoac yn ei alw'n fendigedig.

18. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel;ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.

19. Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth,a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.Amen ac Amen.

20. Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 72