Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 72:2-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,a'th rai anghenus yn gywir.

3. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,a'r bryniau â chyfiawnder.

4. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,a gwaredu'r rhai anghenus,a dryllio'r gorthrymwr.

5. Bydded iddo fyw tra bo haula chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.

6. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.

7. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.

8. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

9. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 72