Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 72:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,a'th gyfiawnder i fab y brenin.

2. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,a'th rai anghenus yn gywir.

3. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,a'r bryniau â chyfiawnder.

4. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,a gwaredu'r rhai anghenus,a dryllio'r gorthrymwr.

5. Bydded iddo fyw tra bo haula chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.

6. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 72