Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 72:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,a'th gyfiawnder i fab y brenin.

2. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,a'th rai anghenus yn gywir.

3. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,a'r bryniau â chyfiawnder.

4. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,a gwaredu'r rhai anghenus,a dryllio'r gorthrymwr.

5. Bydded iddo fyw tra bo haula chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.

6. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.

7. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.

8. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

9. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10. Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoeddddod ag anrhegion iddo,ac i frenhinoedd Sheba a Sebagyflwyno eu teyrnged.

11. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.

12. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.

13. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,ac yn gwaredu bywyd y tlodion.

14. Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.

15. Hir oes fo iddo,a rhodder iddo aur o Sheba;aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,a chaffed ei fendithio bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 72