Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 71:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches;na fydded cywilydd arnaf byth.

2. Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi,tro dy glust ataf ac arbed fi.

3. Bydd yn graig noddfa i mi,yn amddiffynfa i'm cadw,oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4. O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus,o afael yr anghyfiawn a'r creulon.

5. Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.

6. Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.

7. Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;ond ti yw fy noddfa gadarn.

8. Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliantac o'th ogoniant bob amser.

9. Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 71