Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 69:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,O Arglwydd DDUW y Lluoedd,nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,O Dduw Israel.

7. Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.

8. Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,ac yn estron i blant fy mam.

9. Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.

10. Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11. pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

14. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.

15. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,na'r dyfnder fy llyncu,na'r pwll gau ei safn amdanaf.

16. Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;yn dy drugaredd mawr, tro ataf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 69