Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 69:19-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,fy ngwarth a'm cywilydd;yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.

20. Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,ac yr wyf mewn anobaith;disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.

21. Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,a gwneud imi yfed finegr at fy syched.

22. Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,yn fagl i'w cyfeillion.

23. Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.

24. Tywallt dy ddicter arnynt,a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.

25. Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,heb neb yn byw yn eu pebyll,

26. oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.

27. Rho iddynt gosb ar ben cosb;na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.

28. Dileer hwy o lyfr y rhai byw,ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.

29. Yr wyf fi mewn gofid a phoen;trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 69