1. Gwareda fi, O Dduw,oherwydd cododd y dyfroedd at fy ngwddf.
2. Yr wyf yn suddo mewn llaid dwfn,a heb le i sefyll arno;yr wyf wedi mynd i ddyfroedd dyfnion,ac y mae'r llifogydd yn fy sgubo ymaith.
3. Yr wyf wedi diffygio'n gweiddi, a'm gwddw'n sych;y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am fy Nuw.
4. Mwy niferus na gwallt fy mhenyw'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos;lluosocach na'm hesgyrnyw fy ngelynion twyllodrus.Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais?
5. O Dduw, gwyddost ti fy ffolineb,ac nid yw fy nhroseddau'n guddiedig oddi wrthyt.
6. Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,O Arglwydd DDUW y Lluoedd,nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,O Dduw Israel.
7. Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.
8. Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,ac yn estron i blant fy mam.
9. Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.