Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 67:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,bydded llewyrch ei wyneb arnom,Sela

2. er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.

3. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

4. Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.Sela

5. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

6. Rhoes y ddaear ei chnwd;Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 67