Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 65:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos,iddo gael preswylio yn dy gynteddau;digoner ninnau â daioni dy dŷ,dy deml sanctaidd.

5. Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth,O Dduw ein hiachawdwriaeth;ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaeara phellafoedd y môr;

6. gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th nerth,yr wyt wedi dy wregysu â chryfder;

7. yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd,rhu eu tonnau,a therfysg pobloedd.

8. Y mae trigolion cyrion y bydyn ofni dy arwyddion;gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.

9. Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,gwnaethost hi'n doreithiog iawn;y mae afon Duw'n llawn o ddŵr;darperaist iddynt ŷd.Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:

10. dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau,ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.

11. Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni,ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.

12. Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;

13. y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid,a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd.Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 65