Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 65:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion;

2. ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned.

3. Atat ti y daw pob un â'i gyffes o bechod:“Y mae ein troseddau'n drech na ni,ond yr wyt ti'n eu maddau.”

4. Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos,iddo gael preswylio yn dy gynteddau;digoner ninnau â daioni dy dŷ,dy deml sanctaidd.

5. Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth,O Dduw ein hiachawdwriaeth;ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaeara phellafoedd y môr;

6. gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th nerth,yr wyt wedi dy wregysu â chryfder;

7. yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd,rhu eu tonnau,a therfysg pobloedd.

8. Y mae trigolion cyrion y bydyn ofni dy arwyddion;gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.

9. Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,gwnaethost hi'n doreithiog iawn;y mae afon Duw'n llawn o ddŵr;darperaist iddynt ŷd.Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 65