Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 64:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionusa rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—

3. rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,

4. i saethu'r dieuog o'r dirgel,i saethu'n sydyn a di-ofn.

5. Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,a dweud, “Pwy all ein gweld?”

6. Y maent yn dyfeisio drygioni,ac yn cuddio'u dyfeisiadau;y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!

7. Ond bydd Duw'n eu saethu â'i saeth;yn sydyn y daw eu cwymp.

8. Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod,a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.

9. Daw ofn ar bawb,a byddant yn adrodd am waith Duw,ac yn deall yr hyn a wnaeth.

10. Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD,a llochesu ynddo,a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 64