Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 60:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist;trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.

3. Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw,a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.

4. Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,iddynt ffoi ati rhag y bwa.Sela

5. Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.

6. Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem

7. a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;eiddof fi yw Gilead a Manasse,Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;

8. Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”

9. Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?

10. Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?

11. Rho inni gymorth rhag y gelyn,oherwydd ofer yw ymwared dynol.

12. Gyda Duw fe wnawn wrhydri;ef fydd yn sathru ein gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 60