Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 6:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg;iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,

3. y mae fy enaid mewn arswyd mawr.Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd?

4. Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid;achub fi er mwyn dy ffyddlondeb.

5. Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau;pwy sy'n dy foli di yn Sheol?

6. Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.

7. Pylodd fy llygaid gan ofid,a phallu oherwydd fy holl elynion.

8. Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.

9. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad,ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.

10. Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion;trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 6