Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 59:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.

11. Paid â'u lladd rhag i'm pobl anghofio;gwasgar hwy â'th nerth a darostwng hwy,O Arglwydd, ein tarian.

12. Am bechod eu genau a gair eu gwefusau,dalier hwy gan eu balchder eu hunain.Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,

13. difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr,fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaearmai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob.Sela

14. Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.

15. Crwydrant gan chwilio am fwyd,a grwgnach onis digonir.

16. Ond canaf fi am dy nerth,a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb;oherwydd buost yn amddiffynfa i miac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder.

17. O fy Nerth, canaf fawl i ti,oherwydd Duw yw f'amddiffynfa,fy Nuw trugarog.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 59