Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 59:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw;amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwyr.

2. Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni,ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.

3. Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes;y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf.Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,

4. heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn.Cyfod, tyrd ataf ac edrych.

5. Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel;deffro a chosba'r holl genhedloedd;paid â thrugarhau wrth y drygionus dichellgar.Sela

6. Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.

7. Wele, y mae eu genau'n glafoerio,y mae cleddyf rhwng eu gweflau.“Pwy,” meddant, “sy'n clywed?”

8. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennauac yn gwawdio'r holl genhedloedd.

9. O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt,oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.

10. Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 59