Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 57:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Galwaf ar y Duw Goruchaf,ar y Duw sy'n gweithredu drosof.

3. Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu;bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf;Selabydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.

4. Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,rhai sy'n traflyncu pobl,a'u dannedd yn bicellau a saethau,a'u tafod yn gleddyf miniog.

5. Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

6. Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed,ac wedi darostwng fy mywyd;y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer,ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo.Sela

7. Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw,y mae fy nghalon yn gadarn;fe ganaf a rhoi mawl.

8. Deffro, fy enaid,deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.

9. Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,

10. oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.

11. Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 57