Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 56:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cod fi i fyny yn nydd fy ofn;yr wyf yn ymddiried ynot ti.

4. Yn Nuw, yr un y molaf ei air,yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;beth a all pobl ei wneud imi?

5. Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau,ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu.

6. Ymgasglant at ei gilydd a llechu,ac y maent yn gwylio fy nghamre.

7. Fel y disgwyliant am fy mywyd,tâl iddynt am eu trosedd;yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd.

8. Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau,ac wedi costrelu fy nagrau—onid ydynt yn dy lyfr?

9. Yna troir fy ngelynion yn eu hôlyn y dydd y galwaf arnat.Hyn a wn: fod Duw o'm tu.

10. Yn Nuw, yr un y molaf ei air,yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,

11. yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;beth a all pobl ei wneud imi?

12. Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw;fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.

13. Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau,a'm camau, yn wir, rhag llithro,er mwyn imi rodio gerbron Duwyng ngoleuni'r bywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 56