1. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw,oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf,ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd;
2. y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd,a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn.
3. Cod fi i fyny yn nydd fy ofn;yr wyf yn ymddiried ynot ti.
4. Yn Nuw, yr un y molaf ei air,yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;beth a all pobl ei wneud imi?
5. Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau,ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu.