Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 51:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.

12. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth,a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.

13. Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr,fel y dychwelo'r pechaduriaid atat.

14. Gwared fi rhag gwaed, O Dduw,Duw fy iachawdwriaeth,ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder.

15. Arglwydd, agor fy ngwefusau,a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.

16. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.

17. Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig;calon ddrylliedig a churiedigni ddirmygi, O Dduw.

18. Gwna ddaioni i Seion yn dy ras;adeilada furiau Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 51