Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 5:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau,y mae dinistr o'u mewn;bedd agored yw eu llwnc,a'u tafod yn llawn gweniaith.

10. Dwg gosb arnynt, O Dduw,bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodauam iddynt wrthryfela yn dy erbyn.

11. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,a chanu mewn llawenydd yn wastad;bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.

12. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 5