Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 5:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,gwna dy ffordd yn union o'm blaen.

9. Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau,y mae dinistr o'u mewn;bedd agored yw eu llwnc,a'u tafod yn llawn gweniaith.

10. Dwg gosb arnynt, O Dduw,bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodauam iddynt wrthryfela yn dy erbyn.

11. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,a chanu mewn llawenydd yn wastad;bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.

12. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 5