Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 5:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD,ystyria fy nghwynfan;

2. clyw fy nghri am gymorth,fy Mrenin a'm Duw.

3. Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD;yn y bore fe glywi fy llais.Yn y bore paratoaf ar dy gyfer,ac fe ddisgwyliaf.

4. Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni,ni chaiff y drwg aros gyda thi,

5. ni all y trahaus sefyll o'th flaen.Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni

6. ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd;ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.

7. Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ,plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.

8. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,gwna dy ffordd yn union o'm blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 5